Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

12 Rhagfyr 2016

SL(5)040 – Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn sydd i gael ei dilyn gan Weinidogion Cymru wrth wneud gorchymyn neu orchmynion sy’n dynodi ysgolion gwirfoddol yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol o dan adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Nid yw cymeriad crefyddol yn cael ei ennill na’i golli yn rhinwedd cael ei ddynodi neu beidio â chael ei ddynodi o dan y weithdrefn a nodir yn y Rheoliadau hyn. Mae dynodiad yn cydnabod bod gan ysgol gymeriad crefyddol eisoes fel cwestiwn o ffaith. O dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw’n dymuno ennill neu newid cymeriad crefyddol.

Deddf Wreiddiol: Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: 22 Tachwedd 2016

Fe'u gosodwyd ar: 25 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2017

SL(5)041 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”) [Saesneg yn unig].

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) ar gyfer pob awdurdod lleol yn lle’r Atodlen bresennol.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: 30 Tachwedd 2016

Fe'u gosodwyd ar: 5 Rhagfyr 2016

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2016